Charles Kennedy
Fe fu Aelodau Seneddol yn San Steffan yn talu teyrnged i’r gwleidydd Charles Kennedy heddiw, ddyddiau wedi ei farwolaeth sydyn yn 55 oed.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei ddydd “yn cynrychioli gwleidyddiaeth ar ei orau”.

Fe wnaeth Hywel Williams ddweud ar ran Plaid Cymru, ei fod yn “ddyn ag egwyddorion cryf wnaeth ennyn parch ar draws y bwlch gwleidyddol.”

Roedd cyn-wraig a mab 10 oed Charles Kennedy yn bresennol i glywed y gwleidyddion yn trafod ei “gymeriad caredig” a’r clod iddo am sefyll mor gadarn yn erbyn rhyfel Irac.