Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn y Senedd heddiw
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi ymddiheuro am y “gofal annerbyniol” a roddwyd i gleifion yn ward iechyd meddwl Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau pobol ynglŷn â safon y gofal sy’n cael ei roi i bobol oedrannus ledled Cymru,” meddai Mark Drakeford.

Ychwanegodd y bydd “cyfarfod brys” yn cael ei gynnal i ystyried rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig.

Daw’r ymddiheuriad ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud y bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol am y sgandal.

Roedd hefyd wedi awgrymu ddoe y dylai penaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “ysgwyddo’r cyfrifoldeb” am y methiannau yn Tawel Fan.

Cafodd galwadau eraill i roi’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig eu hadleisio gan ACau yn y Senedd, gydag un AC yn disgrifio’r ffordd y cafodd cleifion eu trin fel “trosedd”.

Yn ystod y ddadl yn y Senedd heddiw dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar AC y dylai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn gorff sy’n annibynnol o’r Llywodraeth ac nad oedd yn iawn bod gwleidyddion yn penderfynu pwy sy’n cael eu penodi i fyrddau iechyd.

‘Ymchwiliad annibynnol’

Mae Mark Isherwood, AC Ceidwadol y gogledd, wedi galw am gynnal ymchwiliad annibynnol.  Dywedodd bod y bwrdd iechyd wedi dweud bod pryderon difrifol wedi cael eu mynegi ynglŷn â gofal cleifion yn ward Tawel Fan ym mis Rhagfyr 2013 – ond yn ôl Mark Isherwood roedd pryderon wedi cael eu mynegi cyn hynny.

“Mae’n rhaid i’r rheolwyr ac uwch reolwyr y bwrdd iechyd ysgwyddo’r cyfrifoldeb ac nid yw proses ddisgyblu mewnol y bwrdd iechyd yn unig yn ddigon i adfer hyder y cyhoedd.

“Mae’n rhaid cael ymchwiliad annibynnol.”

‘Methiannau erchyll’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: “Datgelodd yr adroddiad i Tawel Fan fethiannau erchyll, a rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb trwy gymryd camau pendant.

“Rwyf eisiau eu gweld yn cyflwyno Prawf Person Addas a Phriodol, ynghyd â phroses o anghymhwyso, fel y gallwn wneud yn siŵr fod rheolwyr y GIG yn gyfrifol ac atebol mewn modd cywir am y gwasanaeth y maent yn ei redeg.

“Mae meddygon a nyrsys oll yn atebol i gyrff rheoleiddio pan fyddant yn methu a chwrdd â’r safonau a ddisgwylir ohonynt, ac yn yr un modd, dylai rheolwyr fod yr un mor atebol, ac yn destun anghymhwyso os oes angen.”

Roedd disgwyl i Mark Drakeford wneud datganiad am y sefyllfa brynhawn ddoe, ond fe gafodd hynny ei ohirio gyda Llywodraeth Cymru yn cytuno i gynnal dadl yn y Senedd heddiw ar gais y Ceidwadwyr Cymreig.

‘Camdriniaeth sefydliadol’

Yr wythnos diwethaf, roedd ymchwiliad annibynnol wedi darganfod “camdriniaeth sefydliadol” yn yr uned.

Dywedodd teuluoedd y cleifion oedrannus, gan gynnwys rhai oedd yn dioddef o ddementia, fod eu hanwyliaid yn cael eu trin fel anifeiliaid.

Roedd un achos lle cafodd claf ei adael ar ei ben ei hun, heb ddillad na blancedi, mewn ystafell oer iawn, a bod rhai wedi eu rhwymo’n ddiangen.

Mae’r teuluoedd wedi dweud heddiw bod angen atebion.