Andy Coulson
Mae cyn olygydd y News of the World Andy Coulson wedi ei gael yn ddi-euog o ddweud celwydd ar lw yn achos cyn Aelod Seneddol yr Alban Tommy Sheridan.

Roedd yr achos yn erbyn Coulson, 47, wedi cael ei gynnal ers pythefnos yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin lle’r oedd wedi gwadu dweud celwydd ar lw yn ystod achos Tommy Sheridan yng Nglasgow yn 2010.

Fe ddyfarnodd y barnwr, yr Arglwydd Burns, nad oedd gan Coulson, o Gaint, achos i’w ateb.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ddydd Llun ond nid oedd modd adrodd am y dyfarniad tan heddiw er mwyn rhoi cyfle i’r Goron benderfynu a fyddai’n apelio yn erbyn y dyfarniad.

Cafwyd Coulson yn euog ym mis Mehefin y llynedd o gynllwynio i glustfeinio ar negeseuon ffôn pan oedd yn olygydd y News of the World.

Roedd yr erlyniad wedi dadlau yn yr achos diweddaraf bod Coulson wedi dweud celwydd ar lw yn ystod achos Tommy Sheridan ar Ragfyr 9 a 10 yn 2010 ar ôl iddo dyngu llw fel tyst yn yr achos yng Nglasgow.

Ond ar ôl i’r erlyniad orffen cyflwyno’u tystiolaeth ddydd Mawrth diwethaf, dywedodd yr amddiffyniad nad oedd gan Coulson achos i’w ateb.

Cafodd Tommy Sheridan ei garcharu am dair blynedd ym mis Ionawr 2011 ar ôl ei gael yn euog o ddweud celwydd ynglŷn â honiadau yn y papur newydd.