Curtis Evans
Mae teulu llanc ifanc fu farw mewn damwain ffordd ym Mheniel yn Sir Gaerfyrddin wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Curtis Evans, 19, o Lanybydderei ladd, ynghyd ag Aaron Hunter, 18 oed, mewn damwain ffordd rhwng pedwar car toc wedi hanner nos ar 25 Mai.

Dywedodd ei fam, Natasha Evans: “Mae colli Curtis wedi gadael bwlch enfawr a all byth gael ei lenwi. Fe fydd atgofion amdano yn fyw am byth.”

Fe wnaeth teulu Aaron Hunter, o Lanybydder, roi teyrnged iddo yr wythnos diwetha’.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain, neu a welodd y ceir yn teithio ar yr A485 rhwng Peniel a Chaerfyrddin a’r A40 rhwng Abergwili a Phensarn rhwng tua 12:10 a 12:16 fore ddydd Llun, 25 Mai, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.