Smiler yn Alton Towers
Mae pedwar o bobol ifanc wedi cael eu hanfu’n ddifrifol mewn damwain ym mharc Alton Towers yn Swydd Stafford.
Roedd 16 o bobol mewn cerbyd ar yr atyniad, Smiler, wnaeth wrthdaro hefo cerbyd gwag toc wedi 2yp prynhawn ma.
Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth ambiwlans y West Midlands: “Cafodd pedwar person ifanc yn eu harddegau – dau ddyn a dwy ferch – anafiadau difrifol i’w coesau yn y digwyddiad ac maen nhw’n cael triniaeth ar hyn o bryd.
“Credir nad yw’r 12 o bobl eraill oedd yn y cerbyd wedi cael eu hanafu’n ddifrifol. Mae gennym ni nifer o adnoddau ar y safle o hyd.”
Dywedodd y llefarydd nad oedd yn gallu cadarnhau adroddiadau bod un person wedi marw.
Mae ymwelwyr âg Alton Towers wedi dweud bod problemau technegol wedi bod yn gynharach heddiw ac mae na feirniadaeth ar wefannau cymdeithasol o’r penderfyniad i ail-agor yr atyniad yn ddiweddarach.
“Roedd pobol yn anymwybodol ac roedd gwaed ymhobman. Roedd yn ddychrynllyd,” meddai llygad dyst.
Cafodd yr atyniad, gwerth £18 miliwn, ei agor ym mis Mai 2013 ond mae wedi gorfod cael ei gau ddwywaith oherwydd problemau technegol.