Byddai Plaid Cymru wedi ennill 5 o seddi yn yr etholiad cyffredinol o dan system wahanol o bleidleisio, yn ôl adroddiad newydd.

Byddai UKIP wedi ennill cymaint â 80 o seddi a byddai dull mwy cyfrannol hefyd wedi arwain at 20 o ASau i’r Blaid Werdd.

Derbyniodd UKIP a’r Gwyrddion bum miliwn o bleidleisiau rhyngddyn nhw yn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai, ond dim ond un Aelod Seneddol yr un sydd ganddyn nhw.

Nawr, mae dadansoddiad newydd gan y Gymdeithas Newid Etholiadol (ERS) yn awgrymu y byddai system wahanol o bleidleisio wedi arwain at y Ceidwadwyr yn cael bron i 100 yn llai o seddi.

Mae llawer o drafodaeth wedi bod sy’n honni bod y system bleidleisio fel y mae hi’n annheg – ac yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, aeth 50% o bleidleisiau i ymgeiswyr wnaeth golli.

Yn ogystal, yn Ne Belfast, enillodd yr AS gyda’r gyfran isaf o’r bleidlais yn hanes etholiadau’r DU, wrth i Alasdair McDonnell o’r SDLP dderbyn dim ond 24.5% o’r bleidlais.

Yn ogystal, cafodd 331 o 650 o ASau eu hethol gyda llai na 50% o’r bleidlais ac fe aeth 191 ohonynt i mewn i San Steffan gyda llai na 30% o’r bleidlais yn eu hetholaeth.

System fwy cyfrannol

Fel rhan o’r arolwg a gomisiynwyd gan YouGov, gofynnwyd i dros 40,000 o bobl sut y byddent wedi pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol os byddai’n rhaid iddyn nhw restru’r pleidiau yn nhrefn blaenoriaeth.

Mae’r arolwg yn awgrymu y byddai pobl yn pleidleisio’n wahanol dan system fwy cyfrannol ac na fyddai’r Ceidwadwyr a Llafur yn ennill cymaint o seddi.

O dan y system pleidlais amgen, lle mae dewisiadau’r pleidleiswyr yn cael eu hailddyrannu tan mae un ymgeisydd yn cael mwy na 50% o’r bleidlais, ni fyddai canlyniad yr etholiad wedi bod yn wahanol iawn. Byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill 337 sedd (cynnydd o 6), Llafur 227 (-5 ), SNP 54 (-2), Democratiaid Rhyddfrydol 9 (+1), Plaid Cymru 3 (dim newid), UKIP 1 (dim newid) a’r Gwyrddion 1 (dim newid).

Ond o dan system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), sy’n debyg i’r math sy’n cael ei ddefnyddio  mewn etholiadau lleol yr Alban, byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill 276 o seddi (-55), Llafur 236 (+4), SNP 34 (-22), Democratiaid Rhyddfrydol 26 (+18), Plaid Cymru 3 (dim newid), UKIP 54 (+53) a’r Gwyrddion 3 (+2).

O dan system restr o gynrychiolaeth gyfrannol, yn debyg i’r math sy’n cael ei ddefnyddio mewn etholiadau Ewropeaidd, byddai’r canlyniad wedi bod hyd yn oed yn fwy gwahanol gyda’r Ceidwadwyr yn ennill 242 o seddi (-89), Llafur 208 (-24), SNP 30 (-26), y Democratiaid Rhyddfrydol 47 (+39), Plaid Cymru 5 (+2), UKIP 80 (+79) a’r Gwyrddion 20 (+19).