Mae safle hedfan ychwanegol wedi agor ym maes awyr Caerdydd a thair taith newydd wedi cael eu lansio, fel rhan o gynllun newydd rhwng y maes awyr a chwmni hedfan Flybe.
O heddiw ymlaen, fe all cwsmeriaid hedfan i Ddulyn, Paris, Caeredin ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd modd hedfan i Gork, Faro, Glasgow, Munich, a Milan.
Yn ogystal â’r teithiau newydd, fe fydd awyrennau yn hedfan yn fwy rheolaidd o’r maes awyr, yn ôl y penaethiaid.
Mae’r cytundeb 10 mlynedd gyda Flybe yn creu 50 o swyddi newydd ac yn rhoi cyfle i hanner miliwn o gwsmeriaid ychwanegol hedfan o Gaerdydd bob blwyddyn.
Twristiaeth
Dywedodd Cyfarwyddwyr y maes awyr, Debra Barber: “Mae ein partneriaeth gyda Flybe yn rhoi mwy o ddewis i bobol Cymru, gwasanaethau mwy rheolaidd a theithiau ar gost resymol – a hefyd yn creu cyfleoedd i fwy o bobol ddod i Gymru.
“Rydym wedi buddsoddi’n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cynnig profiadau gwell i gwsmeriaid nag erioed o’r blaen.”