Mae milwr dan hyfforddiant gyda’r Morlu Brenhinol  wedi marw wrth gymryd rhan mewn ymarferion yn Dartmoor, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd y dyn, sydd heb gael ei enwi ar gais ei deulu, yn cymryd rhan mewn taith gerdded 30 milltir – prawf mawr olaf y cwrs 32 wythnos er mwyn bod yn Comando.

Yn y prawf, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau’r daith eu hunain o fewn wyth awr tra’n cario offer diogelwch ychwanegol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedden nhw’n gwybod beth oedd achos ei farwolaeth hyd yn hyn.

Ym mis Gorffennaf 2013, bu farw Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby ar ôl llewygu yn ystod ymarfer hyfforddi yr SAS ym Mannau Brycheiniog.

Fe wnaeth nifer o filwyr eraill lewygu’r diwrnod hwnnw wrth i’r tymheredd godi i 29C.

Bydd cwest y tri milwr yn cael ei gynnal heddiw.