Bydd heddluoedd Cymru’n profi gyrwyr am gyffuriau yn ogystal ag alcohol am y tro cyntaf yr haf hwn.

Yn ystod yr ymgyrch, fydd yn para drwy fis Mehefin dan arweiniad Heddlu Gogledd Cymru, bydd pedwar heddlu Cymru yn cynyddu’r pwysau ac yn canolbwyntio ar y gyrwyr hynny sy’n yfed a gyrru neu sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Mawrth 2015 sy’n gosod terfynau cyfreithiol ynghylch faint o sylwedd – cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau presgripsiwn – ddylai fod yn system unigolyn os ydynt yn gyrru.

Mae’r ddyfais newydd yn galluogi swyddogion i gynnal prawf am ganabis neu gocên wrth ochr y ffordd.

Yr unigolyn cyntaf i gael ei arestio o dan y ddeddfwriaeth oedd dyn 19 oed o Ynys Môn. Cafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaergybi.  Cafodd ei gyhuddo ac fe ymddangosodd o flaen Ynadon y dref lle cafodd ddirwy o £305 a’i wahardd rhag gyrru am 18 mis.

‘Pris i’w dalu’

Meddai’r Rhingyll Alun Davies o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym i gyd yn mwynhau’r nosweithiau hirach a’r cyfleoedd i gymdeithasu yn ein cartrefi, gerddi, tafarndai lleol, gwyliau a digwyddiadau eraill.

“Ond mae pris i’w dalu am feddwl y gallwch fod yn ddiogel y tu ôl i’r llyw ar ôl i chi fod yn yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.  Bydd mwy o bobl yn cael eu temtio i yfed un neu ddau ac wedyn efallai gyrru heb feddwl am y canlyniadau.

“Meddyliwch cyn i chi fynd allan, gwyliwch beth ydych yn yfed a chynlluniwch sut y byddwch yn mynd adref.”