Mae dyn oedd wedi ffoi o garchar yn Swydd Staffordd ddydd Mercher cyn mynd i Sbaen, wedi dweud ei fod yn awyddus i brofi systemau diogelwch y carchar.
Daethpwyd o hyd i Haroon Ahmed, 26, ym Marbella ar y Costa del Sol, yn ôl adroddiadau.
Roedd wedi ffoi o garchar Dovegate yn Swydd Stafford ddydd Mercher.
Dywedodd Ahmed wrth bapur newydd y Sunday Mirror: “Yn fy meddwl fy hun, ro’n i am brofi’r [systemau] diogelwch.
“Ro’n i’n meddwl y rown i gynnig arni – a cherdded allan trwy’r drws. Dyna pa mor hawdd oedd e. Fe wnes i gario mlaen i gerdded.”
Ychwanegodd ei fod yn gofidio am ei ddiogelwch ef a’i deulu pe bai’n dychwelyd i wledydd Prydain.
Mae’r heddlu wedi cael gwybod fod Ahmed wedi cysylltu â’r wasg.
Cyn hynny, doedd yr heddlu ddim wedi gallu cadarnhau bod Ahmed wedi ffoi i Sbaen.
Mae Ahmed, sy’n hanu o Derby, yn 6 troedfedd, yn denau a chanddo wallt du byr.
Roedd yn gwisgo jeans a chrys-t llwyd.
Oherwydd ei fod yn ddyn treisgar, mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i beidio mynd ato.
Mae brawd Ahmed, Majeed Ahmed, 25, wedi cael ei gyhuddo o gynorthwyo carcharor.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon yn Burton ar Fehefin 25.