Dydy Heddlu’r Gogledd ddim yn trin marwolaeth dynes 20 oed ym Mae Colwyn fel un amheus.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref y ddynes am 12.20 brynhawn ddoe lle daethon nhw o hyd i’w chorff.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae’r achos wedi’i drosglwyddo i’r crwner.