Mae dau swyddog diogelwch wedi cael eu carcharu am herwgipio dyn a fu farw yn ddiweddarach.
Fe wnaeth George Maxwell, 33, a Brian Atkins, 49, gellweirio eu bod yn mynd â Paul Wickerson, 32, o Awstralia, ar “bush tucker trial” pan wnaethon nhw ei gludo o ŵyl Brownstock yn South Woodham Ferrers, Essex, ar Awst 31, 2013.
Fe wnaethon nhw ei roi mewn mewn gefynnau, ei yrru o’r ŵyl mewn Land Rover, a’i adael wedyn wedi drysu ar ochr y ffordd, yn ôl Heddlu Essex.
Daethpwyd o hyd iddo wedi marw am tua 10:45 y nos – tua 20 munud ar ôl iddo gael ei adael – ar ôl iddo gael ei daro gan hyd at bedwar o geir.
Cafwyd y dynion yn euog o herwgipio yn dilyn achos pythefnos o hyd yn Llys y Goron Chelmsford. Cafodd George Maxwell ei garcharu am dair blynedd, a cafodd Brian Atkins ei garcharu am dair blynedd a naw mis.
Clywodd y llys fod Paul Wickerson, oedd wedi bod yn yfed ac wedi cymryd ychydig bach o gocên a ketamin, wedi teimlo’n sâl yn gynharach yn y nos.
Er i’w ffrindiau edrych ar ei ôl, fe gollon nhw gysylltiad gyda’r Awstraliad am tua deg. Daeth y ddau swyddog diogelwch o hyd iddo yn crwydro’r safle.
Y tu allan i’r llys heddiw, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Simon Werrett, a arweiniodd yr ymchwiliad, y dylai mynychwyr gwyliau gael eu diogelu gan staff diogelwch.
Meddai: “Bydd y dyfarniad yn anfon neges glir i’r rhai sy’n ymwneud â diogelwch gwyliau cerdd – y byddant yn atebol am eu gweithredoedd.”