Mae un o fechgyn bro Eisteddfod yr Urdd eleni yn gobeithio ennill medal dros y penwythnos – ond nid am adrodd na chanu.

Bydd Aaron Ramsey o Gaerffili yn chwarae i Arsenal yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Aston Villa yfory.

Y chwaraewr canol cae sgoriodd gôl ola’r gem i gipio’r tlws i Arsenal yn erbyn Hull y llynedd ac mae’n ffyddiog y gallan nhw wneud yr un fath eleni cyn herio’r timau mawrion yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf.

Meddai Aaron Ramsey: “Gobeithio y gallwn ni ennill Cwpan FA Lloegr eleni. Yna, bydd hynny’n ddau dlws mewn dwy flynedd felly gobeithio y gallwn ni barhau gyda’r rhediad o ennill pethau.”

Ond mae’r chwaraewr 24 mlwydd oed yn gobeithio cael y profiad o fuddugoliaeth heb y boen y tymor hwn wedi i Arsenal ildio dwy gôl yn erbyn Hull cyn dechrau sgorio eu hunain. 3-2 i Arsenal oedd hi erbyn diwedd y gêm.

Mae si ar led hefyd fod Barcelona yn cadw llygad ar Ramsey ond mae’r Cymro wedi mynnu mai Arsenal yw ei le am y tro.