Mae’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Wayne Parnell wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg am y tro cyntaf ar gyfer yr ornest T20 yn erbyn Swydd Hampshire yn Stadiwm Swalec heno.

Mae’r bowliwr ifanc David Lloyd wedi’i anafu o hyd.

Bydd Morgannwg yn gobeithio gwneud yn iawn am eu siom nos Wener diwethaf pan gawson nhw eu trechu ar eu tomen eu hunain gan Swydd Essex.

Mewn datganiad, dywedodd y prif hyfforddwr Toby Radford: “Fe gawson ni ddechreuad gwych ar yr Oval yn y rownd agoriadol a’r wythnos diwethaf, wnaethon ni ddim batio cystal ag y gallwn ni.

“Y peth pwysig yfory yw chwarae hyd eithaf ein gallu yn erbyn tîm da iawn.

“Mae gan Swydd Hampshire ddigon o fatwyr da yn eu rhestr, ond mae’n wych bod Wayne ar gael i ni gael ei ddewis a gobeithio y gallwn ni gael cefnogaeth dda a rhoi perfformiad da i fynd gyda hynny.”

Mae disgwyl i’r ymwelwyr gynnwys y bowliwr cyflym o Awstralia, Jackson Bird yn eu carfan am y tro cyntaf heno.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, D Cosker, M Hogan, C Ingram, C Meschede, W Parnell, A Salter, R Smith, G Wagg, M Wallace, B Wright

Carfan Swydd Hampshire: W Smith, J Adams, L Dawson, J Vince (capten), D Briggs, A Wheater, Yasir Arafat, O Shah, S Ervine, G Berg, M Carberry, C Wood, F Edwards