Sepp Batter
Bydd llywydd Cymdeithas Bêl-droed y Byd, FIFA, yn sefyll i gael ei ailethol heddiw er gwaetha ymchwiliad yr FBI i lygredd yn y sefydliad.

Mae llu o wynebau cyfarwydd pêl-droed ar draws Ewrop wedi galw ar i Sepp Blatter ymddiswyddo ac mae ymgyrchoedd ar droed i gefnogi’r Tywysog Ali Bin Al Hussein o Wlad Iorddonen sy’n sefyll yn ei erbyn.

Mae’n dilyn cyrch gan heddlu’r Swistir fore dydd Mercher pan arestiwyd saith o swyddogion FIFA ar ôl ymchwiliadau gnaf yr FBI.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhuddo 18 o bobol dros llwgrwobrwyon honedig o dros £98 miliwn a dalwyd i ennill cytundebau hawliau teledu, nawdd a phleidleisiau i gynnal Cwpan y Byd.

Mewn datblygiad ar wahân, mae twrnai cyffredinol y Swistir hefyd wedi agor achos troseddol dros ddyfarnu Cwpan y Byd i Rwsia yn 2018 a Qatar yn 2022, a byddan nhw’n holi 10 o aelodau pwyllgor gweithredol cyfredol FIFA yn ystod yr ymchwiliad hwnnw.

Yn dilyn galwadau cynyddol iddo gamu o’r neilltu ar ôl y sgandal, mynnodd Sepp Blatter na alla’i “fonitro pawb drwy’r amser”.

Galw am ymddiswyddo

Mae gwleidyddion ac arweinwyr pêl-droed yn Ewrop wedi galw ar i Sepp Blatter fynd ac mae cymdeithasau pêl-droed, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud yn glir y byddan nhw’n pleidleisio yn ei erbyn.

Daeth ei ymddangosiad cyhoeddus ddoe ar ôl i bennaeth Cymdeithas Bêl-droed Ewrop, UEFA, ddweud ei fod wedi pledio gyda Sepp Blatter i roi’r gorau iddi cyn yr etholiadau heddiw.

Awgrymodd Llywydd UEFA, Michel Platini, ei fod yn barod i ystyried y posibilrwydd o foicotio Cwpan y Byd petai Sepp Blatter yn ennill pumed tymor fel arweinydd y sefydliad.

Swyddfa Twyll yn ‘monitro’

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yr Ysgrifennydd Diwylliant  John Whittingdale a phennaeth Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Dyke, wedi ymuno i alw am ymddiswyddiad Sepp Blatter, tra bod noddwyr eisiau camau brys i adfer enw da FIFA.

Mae adroddiadau hefyd fod y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) yn monitro’r sefyllfa ac yn adolygu cwmnïau Prydeinig sydd â chysylltiadau â FIFA.

Mae pob un o 209 o gymdeithasau FIFA yn cael cyfle i bleidleisio yn gyfrinachol ar gyfer swydd y llywydd – y disgwyl yw y bydd llawer o wledydd Affrica ac Asia, a Rwsia, yn cefnogi Sepp Blatter.