Ken Skates (Llun Cynulliad)
Fe ddylai Llywydd Cymdeithas Bêl-droed y Byd ymddiswyddo ar unwaith, meddai Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru.

Os na fydd hynny’n digwydd, fe fydd angen dal ati i roi pwysau ar Sepp Blatter, meddai Ken Skates, gan ddweud ei fod wedi colli “pob hygrededd”.

Ac, mewn cyfweliad ar Radio Wales, wnaeth y Gweinidog ddim gwrthod y syniad fod gwledydd Ewrop yn gwrthod cymryd rhan yng Nghwpan y Byd.

Fe ddaw’r galwadau yn sgil penderfyniad yr FBI yn yr Unol Daleithiau i arestio saith o swyddogion FIFA ar honiadau o lygredd a thwyll.

Hynny ar drothwy cyfarfod o’r corff rhyngwladol pan fyddan nhw’n ethol Llywydd a Sepp Blatter yn cael ei herio am y swydd.

‘Anhygoel’

Yn ôl Ken Skates, roedd datganiad gan Sepp Blatter yn “anhygoel” wrth iddo ddweud na allai gymryd cyfrifoldeb am weithredoedd pob un o’i swyddogion.

“Dyden ni ddim yn sôn am bobol yn dwyn clipiau papur neu’n gadael sedd y toilet i fyny,” meddai. “Ryden ni’n sôn am bobol yn twyllo tros filiynau o bunnoedd.”

Roedd yn proffwydo y byddai corff pêl-droed Ewrop, UEFA, yn cynnal cyfarfod eithriadol os bydd Sepp Blatter, yn ôl y disgwyl, yn cael ei ailethol yn Llywydd FIFA heddiw.

Mae yna rwyg amlwg rhwng gwledydd Ewrop sy’n ffyrnig yn ei erbyn a gwledydd fel rhai Affrica sy’n ei ganmol am eu cefnogi nhw.