Aaron Ramsey ar ol sgorio (Emrah Gurel/PA)
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey, wedi dweud nad oes ganddo ddiddordeb ar hyn o bryd mewn symud i Barcelona.

Yn hytrach, meddai, mae’n canolbwyntio ar chwarae i Arsenal yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr fory.

Ei obaith yw sgorio’r gôl sy’n ennill y Cwpan, fel y gwnaeth y llynedd, pan ddaeth Arsenal yn ôl o fod 2-0 ar ei hôl hi i ennill 3-2 yn erbyn Hull mewn amser ychwaengol.

“Roedd sgorio’r gôl fuddugol y llynedd fel breuddwyd yn dod yn wir a gobeitho y galla’ i wneud yr un peth eto,” meddai mewn cyfweliadau cyn y gêm fawr yn erbyn Aston Villa yn Wembley.

Barcelona

Er hynny, mae rhai arbenigwyr yn dweud ei fod dan bwysau am ei le gan chwaraewr Lloegr Jack Wilshire.

Ond, yn ôl Ramsey, mae Arsenal yn fwy brwd nag erioed i geisio ennill cystadlaethau eleni a nhwthau hefyd wedi gorffen yn drydydd yn yr Uwch Gynghrair.

Mae adroddiadau wedi bod fod Barcelona’n bwriadu cynnig £50 miliwn am Ramsey.