Mae Dreigiau Gwent wedi cyhoeddi y bydd eu chwaraewr Ashley Smith yn ymddeol yn syth am resymau meddygol.
Mae Ashley Smith wedi dioddef nifer o ergydion i’w ben ac fe wnaeth arbenigwyr ei gynghori i roi’r gorau i chwarae rygbi.
Fe wnaeth y chwaraewr 28 oed gynrychioli Cymru ymhob oedran, gan gapteinio Cymru dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007. Cafodd hefyd nifer o gemau gyda chlwb uwch gynghrair Casnewydd.
‘Hynod siomedig’
Dywedodd Ashley Smith: “Dwi’n hynod o siomedig o orfod ymddeol oherwydd anaf ond rwy’n teimlo na ellir anwybyddu’r cyngor meddygol yr wyf wedi ei gael.
“Fe fu’n anrhydedd imi chware i fy rhanbarth. Dwi wedi cefnogi clwb Casnewydd a’r Dreigiau ers pan dwi’n ifanc ac mi roedd chwarae yn Rodney Parade yn fraint imi.
“Fyddai’n colli rhedeg allan o flaen ein cefnogwyr gwych ac yn edrych ymlaen at wylio a chefnogi’r hogiau yn y dyfodol. Mae gadael pan mae’r potensial o fewn y grŵp ar fin cael ei wireddu yn anodd. Ond mi rydw i wedi mwynhau yn fy rôl fel un o’r aelodau mwyaf profiadol yn y garfan.”
‘Ergyd fawr’
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Lyn Jones: “Rydym yn drist o glywed y newyddion am ymddeoliad Ashley.
“Dros y deng mlynedd diwethaf, daeth a bri i’w hun, ei deulu a’r rhanbarth. Byddwn yn colli ei aeddfedrwydd a’i brofiad. Mae’n ergyd fawr inni, ond mae Ashley wedi gwneud y penderfyniad iawn i’w hun a’i deulu.”