Sepp Blatter, llywydd Fifa
Mae llywydd Fifa, Sepp Blatter, dan bwysau cynyddol i ymddiswyddo cyn y bleidlais yfory i ethol llywydd newydd y corff pêl-droed rhyngwladol ar ôl i nifer o uwch swyddogion gael eu harestio ddoe ar amheuaeth o lygredd.
Roedd cadeirydd y Gymdeithas Bêl-droed Greg Dyke wedi mynnu neithiwr bod yn rhaid i Sepp Blatter ymddiswyddo fel llywydd Fifa, tra bod y cyn-beldroediwr a chyflwynydd teledu Gary Lineker wedi dweud “digon yw digon” gan alw am ohirio’r bleidlais i ddewis llywydd newydd.
Daeth eu sylwadau wrth i’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ddatgelu maint y twyll a’r llygredd o fewn Fifa.
Dywedodd Greg Dyke: “Mae Blatter wedi dweud mewn datganiad mai nawr yw’r amser i ddechrau adfer ymddiriedaeth yn Fifa. Does dim ffordd o adfer ymddiriedaeth yn Fifa tra bod Sepp Blatter yno.
“Mae’n rhaid i Sepp Blatter fynd. Mae’r niwed sydd wedi cael ei wneud i Fifa mor sylweddol fel nad oes modd ei adfer tra bod Blatter yno felly mae’n rhaid i Uefa ei orfodi i adael.”
Mae Uefa wedi galw am ohirio’r etholiad i ddewis llywydd Fifa ond mae’r corff yn mynnu y bydd yn cael ei gynnal.
Ddoe, cafodd nifer o uwch-swyddogion Fifa, gan gynnwys dau is-lywydd, eu harestio yn Zurich ar amheuaeth o dwyll, llygredd a derbyn llwgrwobrwyon yn dilyn ymchwiliad gan yr FBI.
Yn y cyfamser, mae erlynwyr yn Y Swistir wedi cychwyn ymchwiliad newydd i ymddygiad rhai o swyddogion Fifa yn ymwneud â’r broses geisiadau i gynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.
Cafodd cyfrifiaduron a dogfennau eu cymryd gan yr heddlu o bencadlys Fifa ddoe.