Mae erlynwyr yn Y Swistir wedi cychwyn ymchwiliad newydd i ymddygiad rhai o swyddogion Fifa.
Daw’r newyddion oriau’n unig wedi i chwech o uwch swyddogion y corff gael eu harestio ar amheuaeth o dwyll a llygredd.
Mae’r ymchwiliad newydd yn ymwneud â’r broses geisiadau i gynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.
Mae cyfrifiaduron a dogfennau wedi cael eu cymryd gan yr heddlu o bencadlys Fifa heddiw.
Mae disgwyl i 10 o aelodau Fifa oedd wedi pleidleisio yn 2010 gael eu holi gan yr heddlu.
Rwsia oedd wedi ennill y ras i gynnal Cwpan y Byd yn 2018, tra bod Qatar wedi’i dewis ar gyfer 2022.
Dydy llywydd Fifa, Sepp Blatter ddim ymhlith y rhai sydd wedi cael eu harestio.
Mae’r etholiad i ethol y llywydd yn cael ei gynnal yn Zurich ddydd Gwener, ac mae disgwyl i Blatter barhau yn y swydd am bumed tymor.
Dywedodd llefarydd ar ran Fifa y bydd yr etholiad yn parhau er gwaetha’r ymchwiliad.