Jonathan Davies
Fe fydd canolwr Cymru Jonathan Davies yn methu Cwpan Rygbi’r Byd yn yr hydref ar ôl anafu cymalau yn ei ben-glin.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru heddiw fod chwaraewr Clermont wedi anafu cymalau’r anterior cruciate ligament, anaf sydd fel arfer yn cymryd misoedd i wella.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i Warren Gatland ailfeddwl ei dîm, gan mai Davies a Jamie Roberts yw dewisiadau cyntaf Cymru yn y canol ar hyn o bryd.

Fe gafodd Davies yr anaf wrth chwarae dros Clermont yn erbyn Montepellier, ac mae’n gadael hyfforddwr Cymru yn brin o opsiynau yng nghanol cae.

Fe allai Warren Gatland alw ar is-gapten y Scarlets Scott Williams i lenwi’r bwlch, tra bod yr asgellwr George North hefyd yn opsiwn posib.