Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi cyhuddo chwaraewyr Real Madrid o anwybyddu Gareth Bale ar y cae.
Daw sylwadau Coleman fis ar ôl i asiant Bale, Jonathan Barnett ddweud bod gyrfa’r Cymro’n dioddef yn Sbaen oherwydd nad yw ei gyd-chwaraewyr yn pasio’r bêl iddo.
Cafodd Bale ei feirniadu’n gyson gan y cefnogwyr a’r cyfryngau yn ystod y tymor diwethaf, ond mae’n mynnu ei fod yn hapu i aros yn Sbaen.
Cafodd y rheolwr Carlo Ancelotti ei ddiswyddo ddydd Llun, ac roedd amheuon ar unwaith ynghylch dyfodol y Cymro.
Dywedodd Chris Coleman: “Rwy’n gwylio pob un o gemau Gareth ac fe alla i ddweud wrthoch chi fel rheolwr nad ydych chi ond yn gwylio un chwaraewr.
“Ond mae cymaint o sylw arno fe, os yw e’n gwneud un camgymeriad yna mae’n fater mawr.
“Os yw’n methu darganfod Cristiano Ronaldo gyda phas ac mae Ronaldo yn ymateb ac yn gwneud ystumiau, yna mae’n cael ei chwyddo.
“Rwy wedi gwylio nifer o gemau pan fo Ronaldo wedi bod yn wael, lle mae Isco wedi bod yn wael.
“Fe dalon nhw dipyn o arian am James Rodriguez a does dim llawer [o ymdrech] ganddo fe, ond Gareth sy’n ei chael hi.”
Sgoriodd Bale 22 o goliau’r tymor diwethaf, gan gynnwys goliau buddugol yn rowndiau terfynol y Copa del Rey a Chynghrair y Pencampwyr.
Ond mae Bale wedi cael ei feirniadu am ei berfformiadau’r tymor hwn, gan gynnwys y gêm yn erbyn Juventus yn rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Ychwanegodd Coleman: “Cafodd ei feirniadu’n hallt ar ddiwedd y cymal cyntaf ond dwi’n ei weld e mewn safleoedd gwych heb ei fod yn derbyn y bêl gan rai chwaraewyr.
“Dw i ddim yn dweud mai Ronaldo yn unig [sydd ar fai] ond yn ymosodol, rwy’n edrych ar Real Madrid ac yn pendroni ynghylch pam nad yw’n derbyn y bêl.”