Yn ôl arolwg o bron i 4,000 o fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ledled y DU, mae dros hanner y rheini a gafodd eu holi wedi dweud eu bod wedi gweld cydweithwyr yn cael eu cam-drin yn y gweithle. Roedd dros 75% yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin eu hunain.

Dywedodd dros hanner eu bod wedi gweld clinigwyr yn torri polisïau urddas neu ddiogelwch cleifion y llynedd.

Cynhaliwyd yr arolwg gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Dundee a Phrifysgol Caerdydd, a chanfu hefyd bod y digwyddiadau hyn yn peri trallod i fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn BMJ Open.

Yn ôl Dr Lynn Monrouxe, Cyfarwyddwr Ymchwil Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, a chydawdur y gwaith ymchwil, mae’r canfyddiadau yn cyd-fynd ag ymholiadau diweddar gan y llywodraeth i achosion o dorri polisïau diogelwch ac urddas cleifion yn y DU.

Dywedodd Dr Monrouxe  bod y canfyddiadau yn dangos y pwysau sylweddol sydd ar fyfyrwyr ond yn fwy positif, bod y canfyddiadau wedi arwain at weithredu mewn rhai llefydd.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod eu data hefyd yn dangos bod y myfyrwyr hyn yn dangos empathi drwy gydol eu hamser fel israddedigion, yn wahanol i’r meddylfryd eang bod gan fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ddiffyg empathi.