Bydd protest yn cael ei chynnal o flaen swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni’r wythnos hon i leisio pryder am gynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau trydan newydd ar yr ynys.

Yn ôl ymgyrchwyr,  mae’r brotest, sydd i’w chynnal ddydd Iau, wedi cael ei threfnu i ddangos rhwystredigaeth gydag “agwedd trahaus” y Grid Cenedlaethol tuag at bobl Ynys Môn. Maen nhw hefyd yn teimlo fod Ynys Môn yn cael ei “aberthu ar allor cyfalaf.”

Mae’r grŵp ymgyrchu, sy’n gasgliad o gynghorwyr tref a chymuned Ynys Môn, sy’n rhan o fudiad Unllais Cymru, eisiau gweld y Grid Cenedlaethol yn gosod ceblau trydan tanfor yn hytrach na chodi rhagor o beilonau ar y tir.

Cefndir

Medd yr ymgyrchwyr fod y Grid Cenedlaethol wedi cynnal yr ymgynghoriad cyntaf yn 2012 a oedd yn nodi un dewis yn unig i gludo trydan – sef peilonau.

Roedd hynny er i uwch reolydd y prosiect, Martin Kinsey, gydnabod mewn cyfarfod i gynghorwyr tref a chymuned y byddai yntau eisiau ceblau tanfor petai’n byw ar yr ynys.

Yn dilyn adroddiad gan y Grid yn 2014, daeth penderfyniad yn gynharach eleni fod y Grid am fwrw ymlaen gyda’i dewis o godi peilonau yn Ynys Môn.

Gwrthwynebiad democrataidd

Mae gwrthwynebwyr yn dweud na ddylai’r Grid gael caniatâd i wneud hyn gan fod ei ymgynghoriad, sydd yn angenrheidiol ar gyfer caniatâd cynllunio, yn wallus.

Maen nhw hefyd yn honni fod y Grid wedi anwybyddu’r gwrthwynebiad i beilonau gan bawb a etholwyd yn ddemocrataidd i gynrychioli llais pobl Môn ers 2012. Mae’r rheini’n cynnwys yr AS ac AC lleol, y Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â 92% o bobl wnaeth ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus y Grid Cenedlaethol yn erbyn codi rhagor o beilonau trydan.

Penderfynu gweithredu

Penderfynwyd trefnu’r brotest i ddangos fod yr ynys yn “colli amynedd gydag agwedd y Grid o ymgynghori ac anwybyddu” yn dilyn cyfarfod arbennig o bwyllgor aelodau Unllais Cymru ar Ynys Môn a gynhaliwyd yn Llangefni’r wythnos diwethaf.

Yn y cyfarfod,  pleidleisiodd y cynghorwyr tref a chymuned yn unfrydol ar dri phwynt fel a ganlyn:

–          Rydym yn gwrthwynebu peilonau newydd

–          Rydym yn cefnogi ceblau tanfor

–          Mae’r ymgynghoriad yn wallus gan nad yw’n rhoi i ni’r cyfle i wrthwynebu peilonau a chefnogi’r opsiwn ceblau tanfor.

Cyn y brotest ddydd Iau, bydd y Grid Cenedlaethol yn cynnal dau gyfarfod yn adeilad Cyngor Môn – un gyda chynghorwyr sir a’r ail gyda chynghorwyr tref a chymuned.

Cadeiriwyd y cyfarfod o aelodau Unllais Cymru gan Raymond Evans. Wrth gloriannu’r cyfarfod, dywedodd Raymond Evans: “Mae’r dystiolaeth a rannwyd yn dangos fod Môn yn ardal eithriadol sydd angen ei hamddiffyn yn amgylcheddol ond hefyd o ran bywoliaeth gynaliadwy’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes twristiaeth, busnesau bach a chanolig, ag amaeth.

“Ond yn hytrach mae Môn yn datblygu i fod yn ardal sy’n cael ei aberthu ar allor cyfalaf.”

Grid Cenedlaethol

Meddai llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol eu bod nhw’n “cydnabod bod pobl yn siomedig” ond fod yn rhaid iddyn nhw feddwl am gost trydan yn ogystal â barn pobl leol.

Dywedodd y llefarydd: “Yn ogystal ag ystyried barn pobl, rhaid i ni hefyd ystyried llawer o ffactorau eraill megis yr amgylchedd, heriau peirianneg a chost.

“Yn y pen draw, mae popeth rydym yn ei wneud yn mynd ymlaen ar filiau trydan pobl.

“Mae hi’n dechnegol yn llawer anoddach i gysylltu ynni niwclear gan ddefnyddio ceblau tanfor, yn ogystal â channoedd bod yn filiynau o bunnoedd yn ddrutach.

“Felly, rydym yn credu ein bod wedi dewis y cydbwysedd gorau rhwng yr holl ffactorau mae’n rhaid i ni ystyried gyda’n cynnig am gysylltiad y tir ar draws Ynys Môn a chladdu’r ceblau o dan y Fenai.

“Rydym yn awr yn gwneud mwy o astudiaethau ar y llwybrau posibl y gallai’r cysylltiad ei gymryd a bydd pobl yn gallu dweud eu dweud eto yn ddiweddarach eleni ar unrhyw opsiwn yr ydym yn ei gynnig.”

Bydd y brotest yn cael ei chynnal o flaen swyddfa Cyngor Sir Ynys Môn, ddydd Iau am 5:00 y prynhawn.