Mae archfarchnad Asda yn Llangefni, Ynys Môn wedi cael ei chau wedi i lori fynd ar dân ger y maes parcio.
Credir fod y tân wedi dechrau yn y lori ger safle llwytho y tu ôl i’r archfarchnad ar Ffordd Cae Sel yn Llangefni.
Roedd criwiau tân o Fangor a Porthaethwy wedi ymateb i’r digwyddiad.
Cafodd staff a chwsmeriaid y siop eu gorchymyn i adael yr archfarchnad tra bod y diffoddwyr tân yn diffodd y tân.