Mae dau ddyn 35 oed o wledydd Prydain wedi boddi tra’n nofio oddi ar arfordir Melita.

Dywedodd y Swyddfa Dramor fod y ddau wedi mynd i drafferthion brynhawn Sadwrn yn ardal Comino.

Cafodd aelodau o luoedd arfog Melita eu galw i gynorthwyo’r ddau a chafodd un dyn ei gludo mewn cwch i dref Imgarr, tra bod y llall wedi’i gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cynnig cymorth i’w teuluoedd.

Dydy enwau’r ddau ddim wedi cael eu cyhoeddi eto, ond mae lle i gredu bod un ohonyn nhw o Birmingham.