Mae’r mathemategydd John Nash a’i wraig wedi cael eu lladd ar ôl i’w tacsi fod mewn gwrthdrawiad yn New Jersey.

Cafodd y ddau eu taflu o’r cerbyd wedi iddo daro rhwystr ar y New Jersey Turnpike brynhawn ddoe.

Roedd y ffilm ‘A Beautiful Mind’ yn seiliedig ar fywyd y mathemategydd oedd yn dioddef o sgitsoffrenia.

Nash oedd enillydd y Wobr Nobel ym maes Economeg yn 1994.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd yr actor Russell Crowe, oedd wedi chwarae rhan John Nash yn y ffilm: “Syfrdan… Mae fy meddyliau gyda John & Alicia a’r teulu. Partneriaeth ryfeddol. Meddyliau hyfryd, calonnau hyfryd.”