Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaethau tri o bobol yn Swydd Rydychen yn chwilio am ddyn 21 oed.
Cafodd cyrff dyn 44 oed, dynes 46 oed a merch chwech oed eu darganfod mewn tŷ yn Didcot neithiwr.
Dydy hi ddim yn glir eto sut y bu’r tri farw.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n chwilio am Jed Allen, 21, sydd a thatŵ amlwg o gorryn ar ei law chwith.
Mae Allen yn perthyn i’r tri fu farw.
Mae Parciau Prifysgol Rhydychen – lle’r oedd Allen yn gweithio am gyfnod – wedi cael eu cau tra bo’r chwilio’n parhau.