Dydy’r Blaid Lafur ddim bellach yn gwrthwynebu refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, meddai Harriet Harman.

Dywedodd yr arweinydd dros dro y byddai ei phlaid yn cefnogi’r Prif Weinidog David Cameron wrth iddo anelu i gynnal refferendwm erbyn diwedd 2017.

Roedd y Blaid Lafur yn gadarn yn eu gwrthwynebiad i’r refferendwm yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Mewn erthygl ar y cyd â llefarydd materion tramor y blaid, Hilary Benn, dywedodd Harriet Harman yn y Sunday Times: “Rydym bellach wedi cael etholiad cyffredinol ac wedi myfyrio ar y sgyrsiau gawson ni ar y stepen drws ledled y wlad.

“Mae pobol Prydain am gael dweud eu dweud am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

“Felly bydd Llafur yn cefnogi’r bil ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd pan ddaw gerbron Tŷ’r Cyffredin.”

Ychwanegodd nad oedd y blaid am weld gwledydd Prydain yn ymlwybro tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dydy’r cysyniad fod dyfodol, llewyrch a diogelwch Prydain yn ddibynnol ar gau ei hun oddi wrth y farchnad a byd sy’n gynyddol ryng-ddibynnol ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.”

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau am gynlluniau Banc Lloegr i astudio effeithiau posib gadael yr Undeb Ewropeaidd ar economi gwledydd Prydain.

Dydy’r Prif Weinidog David Cameron ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd pe bai trafodaethau cychwynnol yn ddi-ffrwyth.

“Rwy’n hyderus,” meddai, “Rwy wedi gosod allan cyfres o newidiadau rwy’n credu y byddai’n mynd i’r afael â’r prif bryderon sydd gan bobol Prydain, pryderon sydd gen i am Ewrop a’r ffordd mae’n gweithio ac rwy’n hyderus o sicrhau’r newidiadau hynny.”