Diffyg meddwl yn radical oedd ar fai am fethiant y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl cyn-Aelod Seneddol Pontypridd, Kim Howells.
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fod y blaid yn wynebu’r argyfwng gwaethaf y mae’n ei gofio.
Ond dywedodd fod perfformiad ei blaid yng Nghymru gystal ag yr oedd eu perfformiad yn rhannau eraill o wledydd Prydain.
“Os nad yw’r Blaid Lafur yn meddwl yn ffres, gyda dehongliad radical o’r hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas a’r hyn sydd ei angen ar bobol yn y gymdeithas, fe allai ostwng i nifer fach iawn o aelodau seneddol.”