Llys Ynadon Westminster
Mae wyth o ddynion wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys heddiw mewn cysylltiad â’r lladrad gemwaith yn Hatton Garden, Llundain.
Ymysg y dynion sydd wedi’u cyhuddo o gynllwynio i ladrata mae Terry Perkins, 67, Daniel Jones, 58, a Hugh Doyle, 48, o Enfield; William Lincoln, 59, o Bethnal Green; a John Collins, 74, o Islington.
Mae Brian Reader, 76, a Paul Reader, 50, o Dartford, a Carl Wood, 58, o Cheshunt, hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad.
Fe wnaeth yr wyth ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster fore heddiw.
Mae bron i ddeufis ers i griw o ladron dorri i mewn i 72 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden yn Llundain dros benwythnos y Pasg ac mae’r cyhuddiadau yn erbyn yr wyth yn honni eu bod nhw wedi cynllwynio i dorri mewn i adeilad gyda’r bwriad o ladrata.
Byddan nhw’n ymddangos o flaen Llys y Goron Southwark ar 4 Mehefin.
Dywedodd yr erlynydd Edmund Hall nad oedd gwerth y gemwaith gafodd ei ddwyn yn hysbys hyd yn hyn, ond y bydd yn debyg o fod “yn fwy na £10 miliwn”.
Penderfynodd y Barnwr i gadw’r dynion yn y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf yn y llys gan ddweud fod y cyhuddiadau yn eu herbyn yn “ddifrifol”.
Y bore yma hefyd, cyhoeddodd Scotland Yard fod dyn 42 mlwydd oed hefyd wedi cael ei arestio yn Essex ar amheuaeth o gynllwynio i ladrata.
Mae Heddlu’r Met wedi wynebu beirniadaeth am y lladrad, yn enwedig ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedden nhw wedi ymateb i larwm yn y lleoliad.