Mae Wylfa yn un o'r safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan Magnox
Mae’r cwmni sy’n rheoli gorsafoedd niwclear Trawsfynydd a Wylfa wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwneud diswyddiadau fel rhan o’u cynlluniau ail-strwythuro.

Meddai Magnox eu bod nhw’n rhagweld y bydd rhwng 1,400 a 1,600 o swyddi’n cael eu colli mewn 12 safle ar draws y DU erbyn mis Medi 2016.

Mae’r ffigwr yn cynnwys staff, staff asiantaethau a chontractwyr.

Nid yw’n hysbys eto os fydd swyddi yn cael eu colli yn y ddau safle yng Nghymru ond mae 180 yn gweithio yn Nhrawsfynydd a thua 550 yn Wylfa ar Ynys Môn ar hyn o bryd.

‘Model gweithredu symlach’

Meddai’r datganiad gan Magnox eu bod nhw wedi rhannu gwybodaeth am y toriadau gyda staff yr wythnos hon wrth iddyn nhw ailstrwythuro a “chreu model gweithredu symlach ar gyfer dadgomisiynu.”

Dywedodd y datganiad: “Byddwn yn ceisio, lle bynnag y bo’n bosibl, cael gostyngiadau trwy ddulliau gwirfoddol a byddwn yn ymdrechu i ail-hyfforddi staff ar gyfer swyddi ble’r ydym yn dibynnu ar adnoddau asiantaethau ar hyn o bryd.

“Nawr, rydym yn mynd trwy gyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y cyd gyda’n hundebau llafur ac ymgynghori yn unigol a chynghori staff.

“Byddwn yn gweithio gyda’r undebau i gefnogi ein gweithwyr ac i sicrhau bod newidiadau yn cael eu rheoli’n deg, gyda pharch at yr unigolion dan sylw ac mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o’r sgiliau pwysig mae ein gweithlu wedi casglu.”