Y fflat yng Nghwmbran lle bu farw Samantha Thomas
Cafodd teyrnged ei rhoi’r bore ‘ma i ddynes 29 oed fu farw mewn tân yng Nghwmbrân ar ddechrau’r wythnos.

Daethpwyd o hyd i gorff Samantha Thomas o Gwmbrân mewn bloc o fflatiau ar Heol Shakespeare yn ardal St Dials y dref ddydd Mawrth.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i holi dyn 49 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Wrth roi teyrnged i Samantha Thomas, dywedodd ei theulu: “Roedd hi’n  ferch, chwaer ac yn fodryb oedd yn meddwl y byd i ni, ac fe fydd colled fawr ar ei hôl gan ei theulu a’i ffrindiau.”

Ychwanegodd y teulu eu bod yn gofyn am breifatrwydd er mwyn galaru.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.