Mae mwy na 1,400 o bobol wedi cael eu hamau o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant yn ystod ymchwiliad yr heddlu i ymddygiad pobol adnabyddus.

Mae ymchwiliad Hydrant yn canolbwyntio ar ymddygiad honedig gwleidyddion, pobol enwog a sefydliadau.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu gan Gyngor Cenedlaethol Uwch Swyddogion yr Heddlu, a’r ffigurau eu rhyddhau gan yr ymchwiliad.

Mae 1,433 o bobol ar restr yr heddlu maen nhw’n eu hamau o fod wedi cyflawni troseddau rhyw.

O’r 1,433 hynny, mae 216 bellach wedi marw.

Mae 666 o’r rhai sydd wedi’u hamau yn ymwneud â 357 o sefydliadau.

Mae 261 o’r bobol ar eu rhestr yn ffigurau cyhoeddus, gyda 135 ohonyn nhw ym myd teledu, ffilm neu radio, 76 ohonyn nhw’n wleidyddion, 43 o’r byd cerddorol a saith o’r byd chwaraeon.