Banc Lloegr
Mae cyfradd chwyddiant wedi syrthio i ffigurau negyddol am y tro cyntaf ers mwy na hanner canrif ym mis Ebrill, yn ôl ffigurau swyddogol.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant wedi gostwng i -0.1%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r gyfradd isaf ers ar gofnod a daw ar ôl deufis o chwyddiant negyddol.

Mae amcangyfrifon o gyfraddau CPI yn y gorffennol yn awgrymu mai ym mis Mawrth 1960 y cafwyd chwyddiant negyddol y tro diwethaf, pan oedd Harold Macmillan yn brif weinidog a  Dwight Eisenhower yn y Tŷ Gwyn.