Yvette Cooper
Mae un o ymgeiswyr arweinyddiaeth Llafur wedi rhybuddio bod yn rhaid i’r Blaid Lafur ailgynnau ei pherthynas gyda busnesau ar ôl canlyniad siomedig yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Yvette Cooper, ysgrifennydd cartref yr wrthblaid a gwraig Ed Balls, wedi dweud fod yn rhaid i’r Blaid Lafur ddangos ei bod yn awyddus i hybu busnesau a thwf.
Roedd yn feirniadol o arweinyddiaeth Ed Miliband a’i agwedd tuag at fusnesau.
Daeth sylwadau Yvette Cooper mewn cyfweliad gyda’r Independent lle mae’n dweud bod rhethreg y blaid yn y gorffennol wedi tanseilio ei pherthynas gyda busnesau.
Ac mewn ymgais i ymbellhau ei hun oddi wrth Ed Miliband, meddai Yvette Cooper na allai’r blaid fod yn gwbl yn erbyn toriadau diweddar y Llywodraeth mewn treth gorfforaeth ar gyfer y dyfodol.
Fel arweinydd, dywedodd y byddai’n sefydlu grŵp cynghori busnesau a gwahodd arweinwyr busnes nad oedd yn cefnogi Llafur i ymuno a’r grŵp.
Mae Yvette Cooper yn un o bedwar ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd newydd y Blaid Lafur.
Yr ymgeiswyr eraill yw ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid, Andy Burnham, llefarydd Llafur ar ddatblygu rhyngwladol, Mary Creagh, a gweinidog iechyd yr wrthblaid, Liz Kendall.