Y Ty Crwn yng Nglandwr, Sir Benfro
Bydd dyfodol tŷ crwn yn Sir Benfro yn cael ei ystyried gan arolygwr cynllunio Llywodraeth Cymru heddiw.
Mae Megan Williams a Charlie Hague wedi treulio mwy na thair blynedd yn apelio yn erbyn gorchmynion i ddymchwel eu cartref – oherwydd iddo gael ei godi heb ganiatâd cynllunio.
Er nad oes disgwyl i’r arolygwr wneud penderfyniad ar ddyfodol yr adeilad yn syth, mae’n debyg mai dyna fydd cyfle olaf y cwpl i ddangos eu bod nhw wedi bodloni canllawiau cynllunio Polisi Datblygu Un Blaned y Llywodraeth a gynlluniwyd i annog datblygu cynaliadwy.
Fe adeiladodd Megan Williams a Charlie Hague eu tŷ crwn gan ddefnyddio deunyddiau lleol yng ngardd ei rhieni hi yng Nglandŵr, Sir Benfro.
Mae gan yr adeilad unigryw do gwellt yn ogystal â grisiau tro y tu mewn sydd wedi eu cerfio’n gelfydd allan o bren.
Ond er bod gan y tŷ a’i berchnogion gefnogwyr o bob cwr o’r byd, roedd Cyngor Sir Penfro wedi cyflwyno gorchymyn i ddymchwel yr adeilad.
Yn ogystal, fe wnaeth y Cyngor wrthod apêl Megan Williams a Charlie Hague yn erbyn y gorchymyn hwnnw.