Cheryl James
Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal heddiw yn achos milwr o Langollen fu farw ym marics Deepcut yn Surrey 20 mlynedd yn ôl.

Roedd y Preifat Cheryl James, 18, yn cymryd rhan mewn ymarfer hyfforddiant pan gafwyd hyd i’w chorff ym mis Tachwedd 1995. Roedd wedi’i hanafu gan fwled wrth ymyl ei llygad.

Roedd yn un o bedwar o filwyr fu farw ym marics Deepcut rhwng 1995 a 2002 ynghanol honiadau o fwlio a cham-drin. Bu farw’r milwyr Sean Benton, James Collinson a Geoff Gray ar ôl cael eu hanafu gan fwledi.

Y llynedd roedd yr Uchel Lys wedi gorchymyn cynnal cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ar ôl diddymu rheithfarn agored yn y cwest gwreiddiol i’w marwolaeth ym mis Rhagfyr 1995.

Bydd y gwrandawiad heddiw yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner Woking, yn Surrey.

Fe fydd yn ystyried cais Heddlu Surrey i gynnal y cwest ar yr un pryd a chwestau i farwolaeth y tri milwr arall.

Mae disgwyl i’r crwner hefyd benderfynu a ddylid codi corff Cheryl James, dyddiad y cwest ac a fydd rheithgor yn bresennol.

Deddf Hawliau Dynol

Yn y cyfamser mae tad Cheryl James wedi beirniadu cynlluniau’r Llywodraeth i sgrapio’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Dywedodd Des James na fyddai wedi bod yn bosib sicrhau cwest newydd i farwolaeth ei ferch heb y ddeddfwriaeth.

Roedd y Ceidwadwyr wedi dweud yn eu maniffesto eu bod am ddiddymu’r ddeddf a chael Deddf Hawliau Brydeinig yn ei lle er mwyn torri’r cysylltiad rhwng llysoedd Prydain a Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn Strasbwrg.

Does dim cyhoeddiad swyddogol wedi bod ynglŷn â’r cynlluniau ers i’r Llywodraeth Geidwadol ddod i rym.