Jonathan Edwards
Mae Jonathan Edwards wedi ei ethol yn arweinydd seneddol newydd Plaid Cymru.

Bydd aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn olynu Elfyn Llwyd fel arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin wedi i gyn AS Dwyfor Meirionydd roi’r gorau iddi yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Cafodd Jonathan Edwards ei ethol gyntaf yn 2010 ac mae wedi dweud ei fod yn rhagweld mai cynlluniau’r Llywodraeth i gael gwared a’r Ddeddf Hawliad Dynol, refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd a rhagor o ddatganoli i Gymru fydd pynciau llosg ei blaid yn y dyfodol rhagweladwy.