Bydd y Mudiad Meithrin yn cyhoeddi dogfen heddiw sy’n amlinellu gweledigaeth y mudiad ar gyfer y ddegawd nesaf.
Yn ôl y mudiad, prif bwrpas y ddogfen ‘Dewiniaith’ yw “yw cynnig cyfeiriad i waith pob un sydd ynghlwm â’r Mudiad Meithrin.”
Mae’r cynlluniau, sy’n cael eu hamlinellu yn y ddogfen, yn cynnwys peilota cynllun ‘Cylchoedd Canolog’ i gynnig cymorth estynedig i rai cylchoedd drwy ddod â’u gweinyddu dan reolaeth uniongyrchol Mudiad Meithrin.
Mae 22,000 o blant yn cael defnydd o Mudiad Meithrin pob wythnos a nod y mudiad, a gafodd ei sefydlu yn 1971, yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ehangu cylch Ti a Fi
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ehangu a dyfnhau darpariaethau cylch Ti a Fi drwy gynnig canllawiau cadarn a thrwy gynllun Arweinyddion Ti a Fi Teithiol; cynnal cynllun peilot o Sesiwn Sadwrn i asesu ei addasrwydd fel syniad; a datblygu prosiect peilot ‘Sbri Di Ri’ er mwyn cyflwyno’r Gymraeg i leoliadau newydd.
Meddai Rhiannon Lloyd, Cadeirydd Mudiad Meithrin: “Mae cylch meithrin lleol yn bodoli mewn cannoedd o bentrefi, trefi a dinasoedd Cymru ac yn ganolbwynt pwysig i fywyd y gymuned wrth ddarparu gofal ac addysg o safon drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ymfalchïwn yn y ffaith mai dyma ddechrau taith ieithyddol i nifer o blant o deuluoedd ble na siaredir y Gymraeg.”
Bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi yng nghylch meithrin Maenclochog y bore ma.
Mae modd darllen y ddogfen yma: http://www.meithrin.cymru/creo_files/upload/downloads/dewiniaith_terfynol_cymraeg_art_compressed.pdf