Mae angen hybu byw bywyd iach meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae bron i draean o blant ysgol gynradd Ynys Môn yn ordew, yn ôl arolwg newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae’n golygu mai Ynys Môn sydd a’r gyfran uchaf o blant gordew. Cyn hyn, Merthyr Tudful oedd y sir gyda’r ganran fwyaf o blant dros eu pwysau neu’n ordew yng Nghymru.
Yn ôl y ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 32.3% o blant oedran cynradd ar yr ynys dros eu pwysau neu yn ordew, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru o 26.5%.
Roedd 32% o blant Merthyr Tudful dros eu pwysau neu’n ordew.
Roedd y cyfartaledd isaf dros Gymru ym Mro Morgannwg, ble roedd 21% o blant pedwar neu pum mlwydd oed dros eu pwysau neu yn ordew.
‘Hybu byw bywyd iach’
Dywedodd Dr Julie Bishop o Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai byw bywyd iach gael ei hybu ymysg plant meithrin ar hyd a lled Cymru.
Ychwanegodd y dylai blant “chwarae tu allan yn fwy aml” a bod prosiectau fel Cymunedau’n Gyntaf a grwpiau mam a’i phlentyn yn gallu helpu rhieni.
Dyma’r ffigyrau cyfartalog dros Gymru:
Ynys Môn – 32.4%
Merthyr Tudful- 32.0%
Sir Benfro – 31.0%
Gwynedd- 30.1%
Wrecsam- 29.4%
Ceredigion- 28.7%
Castell-nedd Port Talbot- 28.6%
Blaenau Gwent- 28.1%
Sir Ddinbych- 27.6%
Rhondda Cynon Taf- 27.5%
Caerffili- 27.1%
Torfaen- 26.8%
Abertawe- 26.3%
Sir Gaerfyrddin – 26.2%
Casnewydd- 26.0%
Pen-y-bont- 25.2%
Sir Y Fflint – 25.0%
Powys- 23.9%
Conwy- 23.7%
Sir Fynwy- 23.3%
Caerdydd- 22.6%
Bro Morgannwg – 21.0%