Mae disgwyl i fuddsoddiad o £108 miliwn yn y stoc o dai cymdeithasol gael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths heddiw.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella cartrefi pobol ac i sicrhau bod y cartrefi hynny’n  ddiogel, yn gadarn ac yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS), yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae ansawdd tai cymdeithasol Cymru yn parhau i wella, meddai’r Llywodraeth.

Bellach mae 67% o’r holl gartrefi cymdeithasol (149,755 o gartrefi) yn cwrdd â’r safon ansawdd a osodir gan Lywodraeth Cymru – cynnydd o 7% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Hawl i brynu

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog ei bwriad i ddirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben yng Nghymru, yn amodol ar ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ddiweddar.

Drwy fynd ati i ddirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben, bydd modd sicrhau nad yw stoc tai cymdeithasol Cymru yn prinhau ymhellach. Ers i’r polisi gael ei gyflwyno, gwelwyd gostyngiad o  45% yn yr eiddo sydd ar gael.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Rydym eisiau i bawb yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da o fewn cymuned ddiogel.

“Mae buddsoddi yng nghartrefi pobl yn fodd o sicrhau canlyniadau pellgyrhaeddol  – mae’n hanfodol i wella iechyd y genedl, creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi.

“Dyna pam rydym wedi penderfynu gweithredu i amddiffyn a gwella stoc tai cymdeithasol Cymru. Yn ogystal â’r buddsoddiad gwerth £108 miliwn hwn a’n cynnig i ddirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben yng Nghymru, rydym hefyd yn buddsoddi dros £400 miliwn mewn tai fforddiadwy drwy ein rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.”