Mae enw dyn o Brydain, a gafodd ei ladd mewn ymosodiad bom car yn Afghanistan, wedi cael ei gyhoeddi.

Cafodd Michael Hampshire, o Huddersfield yng ngorllewin Swydd Efrog ei ladd ddydd Sul ar ôl i hunan-fomiwr o’r Taliban ffrwydro bom mewn car ger maes awyr yn y brifddinas, Kabul, gan ladd o leiaf tri o bobl ac anafu 18.

Mewn datganiad gan y Swyddfa Dramor neithiwr, bu’r teulu yn son am eu colled gan ddweud bod Michael Hampshire yn “ddyweddi, mab, ŵyr, brawd, ewythr, a chefnder cariadus ac yn ffrind i bawb a oedd yn ei adnabod.”