Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn crogi yn Walthamstow yn Llundain, wedi i gyrff ei ddwy ferch a’u mam gael eu darganfod mewn tŷ gerllaw.
Fe aeth swyddogion i dŷ ar Ffordd Grove yn Chadwell Heath, dwyrain Llundain brynhawn ddoe wedi adroddiadau am bryderon ynglŷn â diogelwch y perchnogion.
Fe ddaethon nhw o hyd i gyrff y fam, y credir oedd yn 37 oed, a’i dwy ferch, 13 oed.
Cafodd y tad 45 oed ei ddarganfod yn crogi yn ardal Cronfa Woodford, Walthamstow am 8:17 y bore ‘ma.
Mae’r heddlu yn dweud eu bod wedi ymweld â’r tŷ nos Lun ond nad oedd arwydd o aflonyddwch i’w weld. Bydd y mater rŵan yn cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Cafodd y teulu eu gweld y tro diwetha’ ddydd Sul, meddai Scotland Yard.
Mae disgwyl i archwiliadau post mortem gael eu cynnal yn ddiweddarach heddiw ond dywed yr heddlu nad oedd anafiadau i’w gweld ar gyrff y marched.
Nid yw’r cyrff wedi cael eu hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn ac nid yw’r teulu wedi cael gwybod am eu marwolaeth. Mae’n debyg nad ydyn nhw’n byw yn y DU.