Mae gweithwyr Network Rail wedi pleidleisio o blaid streic ledled Prydain tros anghydfod am gyflogau.
Roedd 4-1 o aelodau undeb trafnidiaeth yr RMT, o’r 60% wnaeth bleidleisio, yn cefnogi’r streic.
Fe ddaeth y cyhoeddiad oriau yn unig wedi i’r Ysgrifennydd Busnes newydd Sajid Javid ddweud bod angen cefnogaeth gan o leiaf 40% o’r gweithlu er mwyn cynnal streic o hyn ymlaen.
Daw’r bleidlais wedi i reolwyr yr undeb wrthod cynnig o daliad untro gwerth £500 i staff a chodiad cyflog am y tair blynedd nesaf yn unol â chwyddiant.
“Mae hyn yn fandad enfawr ar gyfer gweithredu ac yn dangos pa mor flin yw staff ynglŷn â’r ymosodiadau ar eu safon byw a’u sicrwydd swyddi,” yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr RMT Mick Cash.
Mae undeb drafnidiaeth y TSSA hefyd yn cynnal pleidlais ymhlith ei aelodau tros streicio, gyda disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi’r wythnos nesa.