Nicola Sturgeon
Bydd Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i sgrapio’r Ddeddf Hawliau Dynol, meddai Nicola Sturgeon heddiw.

Fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban feirniadu cynllun y Ceidwadwyr i ddisodli’r ddeddfwriaeth gyda Deddf Hawliau Dynol Brydeinig ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Alban, David Mundell, fynnu y byddai’r newid hefyd yn berthnasol i’r Alban.

Yn gynharach, roedd David Mundell, unig AS Ceidwadol yr Alban, wedi dweud wrth raglen Good Morning Scotland y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol ac felly “yn gymwys yn yr Alban”.

Wrth siarad ar ymweliad ag Ysbyty Brenhinol Caeredin, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn gwrthwynebu diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a’i bod  yn credu ei fod “yn rhywbeth ofnadwy i’w wneud.”

Fe wnaeth Nicola Sturgeon hefyd ddiystyru honiad David Mundell mai cynigion y Comisiwn Smith am fwy o bwerau i Senedd yr Alban oedd y “pecyn iawn”. Yn hytrach, mae hi wedi ei ddisgrifio fel  “man cychwyn” yn unig gan ddweud nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth Aelodau Senedd yr Alban basio cynnig o blaid y Ddeddf Hawliau Dynol gyda mwyafrif o 100-10.