Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r bachgen saith oed fu farw ar ôl syrthio i’r Afon Taf ym Merthyr Tudful nos Sul.

Roedd Joshua Hazelby-Fear o Dreharris wedi syrthio i’r dŵr ym Mynwent y Crynwyr ger Merthyr tua 6.30yh nos Sul, 10 Mai.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chafodd y bachgen ei dynnu o’r dŵr a’i drin gan barafeddygon ar y safle. Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn hofrennydd ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywed yr heddlu bod ei farwolaeth yn cael ei drin fel damwain drasig.