Chuka Umunna
Mae llefarydd busnes y Blaid Lafur, Chuka Umunna wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll am arweinyddiaeth y blaid.

Fe ymddiswyddodd Ed Miliband fel arweinydd ar ôl canlyniadau trychinebus Llafur yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Chuka Umunna ei fod yn credu y gall Llafur ddod i rym ymhen pum mlynedd: “Rydw i eisiau arwain yr ymdrech yna fel rhan o dîm Llafur, i gael Llafur yn ôl mewn grym,” meddai.

Daeth cyhoeddiad Chuka Umunna cyn cyfarfod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol (NEC) y Blaid Lafur yfory, a fydd yn trafod amserlen ar gyfer cynnal y gystadleuaeth i ddod o hyd i olynydd i Ed Miliband.

Y llefarydd busnes yw’r ail i gyhoeddi ei fod yn ceisio am arweinyddiaeth y blaid ar ôl i’r llefarydd iechyd Liz Kendall gyhoeddi ei bwriad i geisio am y swydd dros y penwythnos.