Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dynes, y cafwyd hyd i’w chorff mewn siwtces mewn camlas, fel ymchwiliad i lofruddiaeth, meddai Scotland Yard.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes yng nghamlas y Grand Union ger Maida Vale yng ngorllewin Llundain ddydd Sul.

Roedd ditectifs wedi bod yn trin yr achos fel un “amheus” ond bellach yn ymchwilio i lofruddiaeth y ddynes.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n gallu cadarnhau ers pryd mae’r corff wedi bod yn y dŵr.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddoe ond fe fydd profion pellach yn cael eu cynnal.

Mae’r heddlu’n credu eu bod nhw’n gwybod pwy yw’r ddynes ond nid yw ei chorff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

Nid yw ei theulu wedi cael gwybod ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n cynnal ymholiadau o dy i dy yn yr ardal leol ac yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gamlas ddydd Sul gan aelod o’r cyhoedd.