Norman Lamb
Mae Norman Lamb wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio i fod yn arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd AS Gogledd Norfolk y byddai’n rhoi ei holl egni i’r swydd, ar ôl i Nick Clegg ymddiswyddo yn dilyn canlyniadau trychinebus i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Norman Lamb yw’r cyntaf i gyhoeddi ei fod yn ymgeisio am y swydd – mae disgwyl i Tim Farron hefyd ymuno yn y ras.